Cwrdd Cymunedol Egin
Cwrdd Cymunedol Egin
June 17, 2025    
1:30 pm - 3:00 pm

Event Type

Mae’r Cwrdd Cymunedol Profi, Arbrofi a Gwella yn gyfle i bob aelod o Gymuned Ar-lein Egin i ddod at ei gilydd i rannu syniadau a phrofiadau, heriau a chyfleoedd, ac i gefnogi ein gilydd wrth i ni weithio tuag at ein nodau cynaliadwyedd a gweithredu hinsawdd. 

Bydd y Cwrdd yn digwydd ar Zoom, yn para 90 munud, ac mae croeso i bawb.

CWRDD CYMUNEDOL EGIN: Dydd Mawrth 17 Mehefin 1.30yp – 3.00yp

Rhannu dysgu

Mae rhannu’r hyn a ddysgir am eich gwaith yn bwysig er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf bosibl, yn ogystal â fod yn gofyniad cyffredin mewn cyllid. Bydd y sesiwn hon yn ganolbwyntio ar:

– Technegau defnyddiol

– Sut i benderfynu pwy/beth/ble rydych yn rhannu

– Canllawiau ar sut y gall Cymuned Ar-lein Egin eich cefnogi

Cwrdd Cymunedol yn y Dyfodol

Dyma’r sesiwn olaf ar themâu cyffredinol a gynlluniwyd ar gyfer pob sefydliad gyda’i gilydd. O fis Awst ymlaen byddwn yn gwahodd sefydliadau sy’n seiliedig ar feysydd diddordeb cyffredin, felly cewch gyfle i ryngweithio â phobl sy’n gweithio ar faterion tebyg i chi. Mae croeso i chi ymuno a themâu a fyddai o ddiddordeb i chi.

Croeso i bawb – dolen Zoom yma. Os nad ydych wedi gwneud yn barod, gallwch ymuno â Chymuned Ar-lein Egin i fod yn rhan o ofod lle gallwch gysylltu a rhannu syniadau gyda dros 600 o aelodau ledled Cymru.

Skip to content