Fel Sylfaenydd a chyn Gadeirydd RCMA Social Enterprise Ltd., bûm yn helpu i lywio Marchnad Ffermwyr Glan yr Afon Caerdydd drwy ei 25 mlynedd o dwf, a rwyf wedi chychwyn sawl menter gysylltiedig, gan gynnwys dwy farchnad ffermwyr arall yng Nghaerdydd a sefydlu menter graddfa-bychain arddwriaeth sy’n tyfu llysiau organig i’w bwyta’n lleol, sydd bellach wedi’i ddeillio fel cydweithfa gweithwyr.
Gweithiais fel Cynghorydd ac Asesydd grantiau llawrydd ar gyfer y rhaglen ‘Bwyd Lleol’ a ariennir gan y Loteri ac fel Mentor Skillsshare gyda rhaglen ‘Making Local Food Work’ gan y sefydliad Plunkett. Rwyf ar hyn o bryd yn diwtor menter gyda Phrifysgol Caerdydd, yn addysgu cwrs mewn Sefydlu Busnes Bach Llwyddiannus. Rydw i wedi bod yn fentor Model Rôl gyda Busnes Cymru ers pymtheg mlynedd gan fynd i ysgolion a cholegau i ysbrydoli pobl ifanc i ystyried sefydlu eu busnes eu hunain. Rwyf hefyd yn fentor gyda nifer o raglenni cymorth menter eraill, fel Atebion Mentrus a Dechrau Newydd Cymru; roeddwn yn fentor gydag Adfywio Cymru; ac ymgynghorydd datblygu menter ar gyfer y Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu (DTA).
Ochr yn ochr â’m mhrofiad rheoli menter gymdeithasol, mae gennyf brofiad personol o redeg stondin marchnad sydd wedi rhoi cefndir ymarferol iawn i mi o ran y ffordd orau o ymgysylltu â chwsmeriaid, uchafu gwerthiant, datblygu a hyrwyddo brand, a llawer o agweddau eraill ar gynllunio busnes. Mae gen i brofiad helaeth hefyd mewn marchnata, codi arian ac adrodd ariannol.
Cysylltwch â Steve: stevegarrett@dtawales.org.uk


