Louisa Addiscott

Cyd-bennaeth Allgymorth ac Ymgysylltu

Rwy’n gyffrous i ymuno â DTA Cymru fel cyd-Bennaeth Allgymorth ac Ymgysylltu. Rwyf wedi treulio llawer o flynyddoedd yn gweithio mewn cymunedau lleol yn RhCT ac yn frwd dros gefnogi unigolion i fod yn asiantau o newid. Rwy’n eiriolwr cryf dros ddatblygu cymunedol sy’n seiliedig ar asedau a gweithio’n gydgynhyrchiol o fewn cymunedau. Mae’r rhain wedi bod yn sylfaen i fy ethos gwaith ac maent yn egwyddorion arweiniol fy ngwaith. 

 Mae’r egwyddorion hyn wedi fy ngalluogi i gefnogi cymunedau lleol i ddatblygu a chyflawni eu gweledigaethau.

Louisa

Mae’r rhain wedi cynnwys cyd-ddylunio a darparu canolfan gymunedol ynni-effeithlon o’r radd flaenaf gyda grwpiau cymunedol lleol; canolfan ymwelwyr oddi ar y grid mewn coedwig leol; trosglwyddo asedau ac adnewyddu pwll padlo a lleihau’r defnydd o ddŵr; prynu tir ar gyfer datblygu canolbwynt cymunedol. 

 Rwy’n cael fy ysgogi gan anghyfiawnder cymdeithasol a’r angen i sicrhau ein bod i gyd yn cydweithio i sicrhau newid. Rwy’n credu bod gan bob un ohonom ran i’w chwarae yn yr agenda gweithredu ar yr hinsawdd ac rydym i gyd yn cyfrannu ati fesul cam. Mae gweithredu hinsawdd yn agenda mor fawr fel nad ydym weithiau’n cydnabod ac yn deall ein cyfraniad presennol. Rwy’n gredwr mawr mewn torri pethau lawr i gamau bychain, fel y gallwn ddysgu a thyfu gyda’n gilydd i gymryd camau mwy i daclo newid hinsawdd. 

Skip to content