Gyda gyrfa o dros 20 mlynedd yn y trydydd sector a chyfnod byr yn y sector preifat, rwyf wedi profi amrywiaeth eang o rolau gydag ystod amrywiol o dimau a sefydliadau. Rwyf wedi bod yn ffodus i ddysgu gan rai pobl anhygoel, gan arwain at set sgiliau eang a throsglwyddadwy. Mae gen i brofiad o gefnogi a rheoli pobl a helpu sefydliadau i ddatblygu, esblygu ac ennill manteision drwy newid. Yr hyn rwyf yn mwynhau fwyaf ydi i ddod i adnabod pobl a deall sut y gallwn ni i gyd gefnogi ein gilydd i gyflawni pethau gwych!
Rwyf wrth fy modd yn archwilio’r awyr agored. Rwyf wedi bod yn byw yng Ngogledd Cymru ers 2013 ac yn araf rwy’n darganfod lleoedd oddi ar y trac ledled y rhanbarth boed ar droed, ar feic neu nofio. Fy sialens bersonol yw i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn amlach yn enwedig y gwasanaethau bws T3, T8 a T10! Ac wrth gwrs mae dod o hyd i gaffi o safon ar fy nheithiau bob amser yn fonws!


