Jasmine Dale ydw i a dwi’n byw yng Ngogledd Sir Benfro, Gorllewin Cymru. Ar hyd fy oes fel oedolyn rydw i wedi bod yn gysylltedig â materion gwyrdd mewn rhyw ffordd, yn gyntaf fel myfyriwr, yna fel athro a thyddynnwr, ac yn aml fel bod dynol yn gwneud fy ngorau i ddod o hyd i ffordd o fyw’n gynaliadwy. Fy mhrif feysydd o arbenigedd ydy strategaethau cyfathrebu, tyfu bwyd, adfywio bywyd gwyllt a natur, a sgiliau ymarferol a phersonol cyffredinol ar gyfer cydnerthedd a chynllunio prosiectau. Dw i’n mwynhau cyfarfod â phobl newydd a dw i bob amser yn chwilfrydig o gwmpas y ffordd y mae’r lle rydym yn byw ynddi gyda personoliaeth unigryw ei hun, yn effeithio ar yr hyn sy’n bosibl ac yn aml yn allweddol i fentrau cymunedol gwych.
Rwy’n dod i’r gwaith hwn oherwydd dw i’n cael fy ysbrydoli gan bobl dda sy’n gwneud gwahaniaeth yn y byd. Dw i wedi cyfarfod â llawer o grwpiau dros y blynyddoedd, gan gynnwys nyrsys, penseiri, artistiaid, cyn-filwyr, clybiau eglwys, chwaraeon ac ysgol ac rwyf bob amser yn cael fy atgoffa o’r sgiliau a’r wybodaeth sydd gennym yn ein cymunedau. Drwy gefnogi grwpiau i gydweithio a chreu ein hatebion lleol ein hunain, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r heriau o’n cwmpas. Trwy Egin, gallaf helpu hynny i ddigwydd a rhannu adnoddau, profiad a mewnwelediadau eraill i gefnogi cymunedau i droi syniadau yn gamau ymarferol.
Ardaloedd: De-orllewin Cymru: Sir Benfro, Caerfyrddin
Cysylltwch â Jasmine: jasminedale@dtawales.org.uk


