Trefnodd Adfywio Cymru ddigwyddiad heddiw a ddaeth ynghyd a’r bobl yn ardal Rhondda, Cynon Taf a oedd yn awyddus i drafod yr ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Roedd yn gyfarfod gyntaf i gysylltu grwpiau cymunedol sy’ eisoes yn gweithredu ar hyn gyda chynghorwyr a swyddogion y cyngor i weithio ar y ffordd ymlaen gyda’i gilydd.
Cafodd pawb gyfle i fynychu gweithdai ar bynciau penodol a oedd yn arddangos peth o’r gweithgarwch sy’n mynd ymlaen yn barod, sef, ailgylchu beiciau, ail gylchu dillad, tyfu bwyd a pherchnogaeth gymunedol o dir a lleihau’r defnydd o egni.
Roedd yr ail ran, pan symudodd pawb i grwpiau bach eto, yn edrych ar ddarganfod ‘hadau o newid’ (neu syniadau) i’r ardal. Dyma rhai enghreifftiau ohonyn nhw:
- system gwresogi ranbarthol
- ysgogi’r awydd am gynhyrchu egni’n lleol
- rhwydwaith fwyd lleol
- newid y ffordd mae pobl yn meddwl ac yn ymddwyn – y dewisiadau maent yn eu gwneud.
- lleihad mewn plastigion yn y tŷ
- tyfu mentrau cymunedol o raddfa fwy diwydiannol.
Yna ar ôl cael adborth am rain aethpwyd yn ôl i’r grwpiau i feddwl am yr effeithiau y byddai’r ‘hadau’ yma yn eu cael.
Cyfranodd pawb yn wych gyda syniadau a thrafodaeth fywiog. Gallwch weld recordiad o’r digwyddiad (y brif ystafell yn unig) isod yn Saesneg.

